Soniarus

Lawrlwytho

Mae croeso i chi lawrlwytho’r canlynol:-


Camau Pres

4 llyfr rhan 1 yn Bb 
4 llyfr rhan 2 yn Bb 
4 llyfr rhan 3 yn Eb 
1 llyfr rhan 3 yn Bb 
4 llyfr rhan 4 yn Bb 
2 lyfr rhan 4 yn Eb 
Sgor

  • cliciwch yma i lawrlwyrtho'r esiampl or darnau uchod yn rhad ac am ddim

Lawrlwytho - Sharps

Mae’r gwaith creu deunydd ar gyfer hyfforddi ieuenctid yn parhau ac fel rhan o’n cyfundrefn rheoli ansawdd fe allwch lawrlwytho esiampl o’r deunydd yma yn rhad ac am ddim.

Mae’r deunydd sydd ar gael ar hyn o bryd yn enghraifft o wers ar adnabod a defnyddio llonnodau. Mae’r deunydd yn cynnwys gwaith unigol sydd hefyd wedi ei drefu fel darn y gellir ei chwarae gan gwrp offerynnau pres. Bydd y wers sydd yn dilyn y deunydd uchod yn datblygu’r gallu i ddeall a defnyddio llonnodau. Rydym yn gobeithio y bydd y rhai sydd yn mateisio ar y cynnig yma yn gyrru adborth a sylwadau yn ol i ni. Y cyfeiriad e-bost yw post@soniarus.co.uk.

  • cliciwch yma i lawrlwytho'r esiampl yma yn rhad ac am ddim.

72 o Emynau Cymraeg Ar Gyfer Band Pres

Ni ellir cael gwell na emynau Cymraeg yn enwedig pan yn cael eu perfformio gan fand pres. Bydd 72 o emynau Cymraeg ar gyfer band pres ar gael yn ein catalog cyn diwedd y mis. Er mwyn cael profiad o glywed eich band yn chwarae un o’r emynau Cymraeg gallwch lawrlwytho yr emyn Ardudwy gan John Roberts (Ieuan Gwyllt) yn rhad ac am ddim. Gadwech i ni wybod beth yw eich barn y cyfeiriad e-bost yw post@soniarus.co.uk

  • cliciwch yma i lawrlwytho'r esiampl yma yn rhad ac am ddim.

Mae angen egluro nad yw ansawdd argraffu’r gerddoriaeth sydd wedi ei lawrlwytho o’r un safon a’r gerddoriaeth fyddwch yn ei brynnu gennym ni. Hyn oherwydd agweddau technegol yn ymwneud a trosi’r sgor gerddorol o’r feddalwedd cerdd i’r feddalwedd sydd yn eich galluogi i lawrlwytho.


Engreiftiau o'n cerddoriaeth

Mae rhai o’n cwsmeriaid wedi gyrru neges yn dweud y byddai yn fuddiol pe bai modd clywed enghraifft o’r gerddoriaeth pan ar ein safle. Bydd hyn yn cymeryd amser i’w wneud yn iawn ond er mwyn ymateb i hyn mor gyflym a phosibl rydym wedi defnyddio cerddoriaeth sydd wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur i’r unawdau a’r deuawdau. Yn amlwg nid yw rhain cystal a perfformiadau real. Maent yn fecanyddol o’i gymharu a perfformiadau real sydd yn rhoi’r mynegiant briodol i’r gerddoriaeth. Hefyd mae’r offerynnau yn swnio’n wahanol i’r rhai a ddynodi’r yn y catalog. Fodd bynnag gobeithiwn y bydd rhain yn rhoi syniad i chi o sut mae’r gerddoriaeth yn swnio. Bydd perfformiadau real ar gael mor fuan ag sydd yn bosibl.

Cliciwch ar y canlynol os gwelwch yn dda:-


Diolch yn fawr

Rydym yn gobeithio eich bod wedi dod o hyn i’r hyn oeddech yn chwilio am. Os nad ydych mae croeso i chi gysyltu a ni.

Diolch am ymweld a’n safle we, edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.

 

 

Linciau Pwysig: Printio | Adio i ffefryn | Dweud wrth Ffrind | E-bostio Ni

Cysylltiadau Cyflym:
Croeso | Amdanom Ni | Cerddoriaeth | Archeb | Cysylltu

Copyright 2006 Soniarus