Soniarus

Croeso

Mae Soniarus yn gwmni newydd wedi ei sefydlu yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cyhoeddi cerddoriaeth i offerynnwyr pres ac wrth ein bod yn gwmni Cymraeg rydym yn bwriadu hyrwyddo bob math o gerddoriaeth sydd gyda cysylltiad Cymraeg. Hyn yn cynnwys gwahanol fathau o gerddoriaeth h.y. cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg i gerddoriaeth cyfoes. Byddwn hefyd yn cyhoeddi cerddoriaeth gwledydd eraill gan obeithio fod gennym rhywbeth at flas pawb.

Ar ein safle we byddwch yn gallu gweld ag yn gallu prynu cerddoriaeth o’r catalog diweddaraf sydd yn cynnwys unawdau, deuawdau, darnau ensemble, darnau cyfoes/di-gyweiredd a darnau ar gyfer bandiau pres. I brynu cerddoriaeth bydd angen clicio ar y botwm Cerddoriaeth, yna y botwm Categori er mwyn dewis y categori sydd o ddiddordeb i chi. Pan fyddwch wedi dod o hyd i rhywbeth rydych eisiau ei brynu clicio ar y botwm Archebu a dilyn y cyfarwyddiadau. Pan fyddwn wedi derbyn eich taliad fe gewch eich cerddoriaeth o fewn ychydig o ddiwrnodiau.

Ar hyn o bryd mae gennym gerddoriaeth sydd wedi ei gyfansoddi i offerynnwyr pres. Rydym yn gwieithio ar allu cynnig cerddoriaeth ar gyfer offerynnau eraill yn y dyfodol agos. Yn sgil hyn, pe baich yn gweld darn o gerddoriaeth sydd yn apelio ond ddim ar gael i’r math o offerynnau rhydych chi eisiau, gadewch i ni wybod. Efallai bod modd addasu ar eich cyfer.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymweld a’r safle yn rheolaidd nid yn unig i brynu cerddoriaeth ond i yrru sylwadau am gynnyrch Soniarus ac i rannu y profiad o weld Soniarus yn datblygu i fod yn gwmni fydd yn gallu darparu ar gyfer eich anghennion cerddorol.

Diolch yn Fawr
G. Williams

 

Linciau Pwysig: Printio | Adio i ffefryn | Dweud wrth ffrind | E-bostio Ni

Cysylltiadau Cyflym:
Croeso | Amdanom Ni | Cerddoriaeth | Archeb | Cysylltu

Copyright 2006 Soniarus