
Amdanom Ni
Dechreuodd Gareth Williams chwarae’r cornet gyda Seindorf Arian Dyffryn Nantlle pan oedd yn naw oed. Ar y pryd doedd Seindorf Dyffryn Nantlle ddim yn cael cyfod rhy lewyrchus ac felly cafodd y cyfle i chware gyda bandiau pres lleol eraill yng Ngogledd Cymru. Er hyn roedd Gareth bob tro yn dychwelyd i fand Dyffryn Nantlle.
Dechreuodd roi gwersi i blant y band pan yn 16 oed a cafodd ei benodi yn arweinydd y band pan yn 19 oed. Ar y pryd roedd gan y band 6 aelod hŷn a 4 aelod yn y grwp ieuenctid. Erbyn heddiw mae’r band hŷn yn fand llawn ac mae band canolradd a band ieuenctid yn bodoli yn y Dyffryn. Mae Gareth yn dal i fod yn arwain y band ac mae yn ymwneud ar band canolradd a’r band ieuenctid.
Ebyn heddiw mae Gareth yn chwaraewr tiwba brwdfrydig. Mae yn aelod o fand Deiniolen, yn chware’r Bass Bb. Mae hefyd yn chwarae tiwba neu’r ewffoniwm gyda ensemblau lleol.
Yn ystod 1992 fe aeth Gareth i Brifysgol Cymru Bangor fel myfyriwr hŷn a ennill gradd B.Mus. Yn dilyn hyn fe gymhwysodd fel athro cerddoriaeth a bu yn gweithio yn rhan amser fel tiwtor offerynnau pres i Gwmni William Mathias yng Nghaernarfon. Yn dilyn hyn daeth yn athro anghenion arbennig ac fe enillodd gymhwyster Athro
Mewn Addysg (M.Ed) yn 2004. Hefyd mae ganddo radd Athro Mewn Cerddoriaeth (M.Mus.).
Diolch yn fawr
Rydym yn gobeithio eich bod wedi dod o hyn i’r hyn oeddech yn chwilio am. Os nad ydych mae croeso i chi gysyltu a ni.
Diolch am ymweld a’n safle we, edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.
Linciau Pwysig: Printio | Adio i ffefryn | Dweud wrth Ffrind | E-bostio Ni
Cysylltiadau Cyflym:
Croeso | Amdanom Ni | Cerddoriaeth | Archeb | Cysylltu